Mae Kronberg wedi ei gefeillio gyda thair tref arall: La Lavandou yn Ffrainc, Porto Reconate yn yr Eidal a Ballenstedt yn hên Ddwyrain yr Almaen. Mae’r cyswllt gyda Ballenstedt yn dal i fodoli er bod yr Almaen wedi uno ers 1989.
Mae Kronberg yn gwahodd y Meiri o’r bedair tref gefeillio i fynychu dathliad o’r gefeillio cyn dechrau’r Farchnad Nadolig. Mae stondinau’r farchnad yn cynnwys clybiau a chymdeithasau o Kronberg ynghyd â stondinau o’r trefi gefeillio. Yn wahanol i ran fwyaf o farchnadoedd Nadolig eraill yr Almaen, nid oes stondinwyr masnachol yn mynychu’r farchnad. Mae hyn yn creu naws unigryw.