Aberystwyth-Kronberg Twinning

Gweithgareddau Gefeillio

Cynhelir cyfarfodydd o AKT bob 1-2 fis a gwahoddir yr holl aelodau. Etholir pwyllgor yn y cyfarfod blynyddol  i redeg y corff am y ddeuddeng mis nesaf. Mae’n fwriad gan AKT i adeiladu ar y proffil o efellio mewn gwahanol ffyrdd:

  • Darparwn gymorth ariannol i glybiau a chymdeithasau sy’n awyddus i ddatblygu cysylltiadau gyda chlybiau a chymdeithasau cyffelyb yn Kronberg.
  • Darparwn gymorth i unigolion, disgyblion ysgol o ardal Aberystwyth, fel rheol, sy’n mynd ar  ymeliadau a drefnwyd i Kronberg.
  • Mynychwn ddigwyddiadau cyhoeddus yn Aberystwyth i ddarparu gwybodaeth am efeillio ac i annog pobl i ymuno gydag AKT.
  • Cynhaliwn ddigwyddiadau cymdeithasol i’n haelodau megis ciniawau, nosweithiau  cwis ac yn achlysurol  ddathiad o Fasching, y carnifal Almaenig, hyn oll er mwyn codi arian.
  • Ein prif ddigwyddiad gefeillio bob blwyddyn yw’r Farchnad Nadolig flynyddol a gynhelir yn Kronberg ym mis Rhagfyr.

Byddwn yn ymweld â Kronberg ddwywaith yn 2024. Bydd yr ymweliad cyntaf â gŵyl Kunst & Weinmarkt a gynhelir ar benwythnos 3ydd – 4ydd Awst. Bydd yr ail ymweliad â’r Farchnad Nadolig a gynhelir ar benwythnos 7fed – 8fed Rhagfyr. Os ydych am ymuno ag un o’r teithiau hyn, cysylltwch a’r ysgrifennydd.

Cynhelir cyfarfod nesaf y gymdeithas nos Lun 29 Ebrill 2024 am 6.30pm yn swyddfeydd Cyngor Tref Aberystwyth yn 11 Stryd y Popty, Aberystwyth. (Mae croeso i rai nad ydynt yn aelodau fynychu.)