Cyfnewidiadau Ysgol
Trefnwyd cyfnewidiadau iaith gan yr ysgolion ers 1968. Yn 2014 cymerodd AKT drosodd y cyfrifoldeb yma er mwyn sicrhau y gallai ieuenctid ddal i letya gyda theuluoedd. Nawr daw grŵp o tua 15 o ddisgyblion Almaenig a’u hathrawon draw i Aber am tua wythnos, gyda disgyblion o Ysgolion Penweddig a Penglais yn eu lletya. Mwynha’r grŵp Almaenig sesiynnau yn yr ysgol, ymweliadau o gwmpas yr ardal a digwyddiadau eraill a gynigir gan y teuluoedd sy’n eu lletya.
Nid yw’r holl ddisgyblion sy’n cynnig llety yn dychwelyd ond mae’r rhai sy’n mentro’n derbyn gofal arbennig ac yn mwynhau aros gyda eu teulu Almaenig a gweld golygfeydd Kronberg a Frankfurt.
Cyfnewidiadau Cerddorol
Cychwynodd y cyfnewidiadau cerddorol rhwng cerddorion ifainc o Geredigion ac Ysgol Penglais yn benodol â Kronberg yn 1980 gyda’r disgyblion yn lletya gyda theuluoedd yn Kronberg ac yn Aberystwyth a’r cyffiniau. Yn 2010 a 2016 teithiodd grwpiau mawr o gerddorion o Benglais ar fws i Kronberg gan aros mewn Hostel Ieuenctid. Cynhaliwyd cyngherddau gan y cerddorion hyn yn yr Altkönigschule, eglwysi a Chartref Preswyl a bu iddynt dderbyn derbyniad gwresog iawn.
Fel rhan o ddathliadau’r Farchnad Nadolig mae AKT yn trefnu i berfformwyr cerddorol deithio i Kronberg.
Cyfnewidiadau Eraill
Mae ein cyfnewidiadau eraill yn cynnwys cyfnewid “Rambles” – mwynhewch ein lluniau isod.