Aethoch chi i Kronberg tra’n ddisgybl ysgol yn Aberystwyth?
Ydych chi yn yr ysgol yn awr ac yn ystyried taith gyfnewid i Kronberg?
Yw’r syniad o ddod i wybod am un dref yn benodol a’r bobl sy’n byw ynddi’n apelio atoch?
Os mai IE yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn yna cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda. Fe’ch gwahoddwn i un o’n cyfarfodydd i’ch galluogi i weld beth sydd ynghlwm â Gefeillio Trefol.
Gweld ein prisau isod ar gyfer Aelodaeth:
- Unigol £10
- Teulu £20
- Mudiad Cysylltiedig £30