Mae gweithgareddau gefeillio wedi bodoli ers 1968 pan ddechreuodd Ysgol Ramadeg Ardwyn ymweld yn rheolaidd â’r Altkönigschule yn Kronberg. Yn 1980 cychwynodd y gefellio cerddorol ac yna yn y 1990au cynnar, sefydlwyd Cymdeithas Gyfeillgarwch i feithrin y cysylltiadau hyn. Yn 1997 arwyddwyd cytundeb gefeillio ffurfiol rhwng Cyngor Tref Aberystwyth a Kronberg -im- Taunus.
Yn wreiddiol, pwyllgor o Gyngor Tref Aberystwyth fu’n gyfrifol am drefnu’r gweithgareddau gefeillio. Erbyn hyn, corff annibynnol sy’n delio gyda’r gweithgareddau - Aberystwyth Kronberg Twinning (AKT). Mae cyswllt cryf yn dal i fodoli gyda’r Cyngor Tref gan fod gan y Cyngor ddau gynrychiolydd ar AKT a mae’n darparu grant bob blwyddyn i AKPA i gynorthwyo gyda gweithgareddau gefeillio.
| 1968 | Cychwynnodd cyfnewid ysgolion rhwng Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, ac Altkoenigschule (AKS) Kronberg. | 
| 1997 | Daeth y Gefeillio Trefol rhwng Aberystwyth a Kronberg yn swyddogol wrth i'r dogfennau gefeillio gael eu llofnodi yn y ddwy dref yn ystod yr haf. Sefydlwyd Pwyllgor Gefeillio gan y Cyngor er mwyn delio a materion gefeillio. | 
| 2003 | Yn dilyn newidiadau yn y trefniadau fe ddaeth y Pwyllgor Gefeillio yn annibynnol o'r Cyngor. Dyma sefydlu yr AKT ar ei newydd wedd. Mae'n cynnwys yn bennaf gwirfoddolwyr ynghyd a dau gynrychiolydd o Gyngor Tref Aberystwyth. Mae wedi parhau o 2003 hyd heddiw yn gweithio I gynnal ac ehangu y ddolen gefeillio rhwng Aberystwyth a Kronberg. | 
| 2017 | Mae Parc Kronberg yn agor - parc sgrialu concrid sy'n cynnwys yn-ôl-a-blaen gyda bowlen agored, trawsnewid a rheiliau. Cafodd ei adeiladu gan Gyngor Tref Aberystwyth gydag arian grant y Gronfa Loteri Fawr. | 
| 2019 | Bwrdd gwybodaeth am efeillio Aberystwyth a Kronberg yn cael ei osod ger Parc Kronberg ar Boulevard De Saint Brieuc. | 
 
	 
	