Mae’n siwr eich bod yn ymwybodol o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data sydd mewn grym ers Mai 25 2018.
Fel corff aelodaeth annibynnol sy’n defnyddio manylion aelodau am wahnaol resymau rhaid i AKT gael caniatâd eu haelodau i barhau i ddefnyddio ei data personol yn union yn yr un modd ag mae’n cael ei ddefnyddio yn barod. Nid ydym yn bwriadu newid y ffurf caiff y data ei ddefnyddio mewn unrhyw fodd. Gweler isod sut yr ydym yn defnyddio eich data personol:
- Danfonwn fanylion ein cyfarfodydd a’n gweithgareddau drwy ebost, post neu’r ddau.
- Yn achlysurol, rydym yn danfon holiadur ynglyn a gweithgareddau AKT yn y dyfodol.
- Fe wnawn gysylltu â chi unwaith y flwyddyn i adnewyddu eich haelodaeth.
- Byddwn yn rhannu eich manylion cyswllt gydag aelodau o’r pwyllgor.
- Fe roddwn eich manylion cyswllt i gyrff eraill os ydych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynnwys y cyrff hynny. Er enghraifft, danfonwn fanylion cyswyllt y rhai hynny sy’n teithio i Kronberg i’r ‘Partnerschaftsverein’, ac hefyd danfonwn fanylion y rhai sy’n gysylltiedig gyda’r gweithgareddau gefeillio yma yn Aberystwyth megis cyrff fel Cyngor Tref Aberystwyth neu’r dair gymdeithas efeillio arall.
Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i gyrff nad sy’n ymwneud â’r gefeillio heb yn gyntaf gael eich caniatâd.