Aberystwyth-Kronberg Twinning

Cymorth Ariannol ar gyfer Ymweliadau â Kronberg

GEFEILLIO ABERYSTWYTH KRONBERG (AKT)

GRANTIAU AR GYFER YMWELIADAU Â KRONBERG

Mae AKT yn bodoli i hybu cysylltiau rhwng Kronberg ac Aberystwyth a gwnaiff gyfrannu arian i gynorthwyo unigolion a grwpiau sy’n awyddus i deithio i Kronberg. Pan yn ystyried ceisiadau am gymorth ariannol bydd AKT yn cymryd y canlynol i ystyriaeth:

  • I blant. ni all cymorth ariannol fod yn fwy na 50% o gost unrhyw daith neu gyfnewid.
  • I oedolion. ni all cymorth ariannol fod yn fwy na 25% o gost unrhyw daith neu gyfnewid.
  • Rhaid ceisio am gymorth ariannol cyn bod yr ymweliad yn cael ei gynnal. Ni fydd AKT yn rhoi unrhyw gymorth ariannol yn ôl-weithredol.
  • Gellir rhoi cymorth ariannol mewn gwahanol ffyrdd:
  1. Swm o arian a roddir i unigolyn/grŵp wedi’i gyfrifo fel canran o gyfanswm y gost.
  2. Swm o arian a roddir i’r unigolyn/grŵp i brynu eitem benodol, e.e. cost bws i faes awyr.
  • Fel arfer, bydd ceisiadau am gymorth ariannol yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd busnes AKT.
  • Gellir ymdrin â cheisiadau brys gan swyddogion AKT rhwng cyfarfodydd a drefnwyd.
  • Rhaid i bob cais am gymorth ariannol gael ei wneud gan ddefnyddio’r ffurflen gais swyddogol. Rhaid i’r holl wybodaeth y gofynnir amdani fod ynghlwm wrth y ffurflen pan gaiff y cais ei wneud.
  • Bydd cymorth ariannol yn cael ei roi nail ai:
  1. Fel siec, y mae’n rhaid ei thalu i mewn i gyfrif banc unigolyn sy’n gofyn am gymorth neu’r sefydliad sy’n gofyn am gymorth, neu
  2. Fel anfoneb (e.e. ar gyfer trip bws) y bydd trysorydd AKT yn ei thalu’n uniongyrchol.
  • Ar ôl yr ymweliad, rhaid i’r unigolyn/sefydliad gyflwyno adroddiad am yr ymweliad.
  • Os na fydd yr ymweliad yn digwydd am unrhyw reswm, bydd AKT yn gofyn i’r rhodd gyfan gael ei dychwelyd at drysorydd AKT

I geisio am gymorth ariannol gallwch gwblhau’r ffurflen  ar-lein isod neu lawrlwytho naill ai Dogfen Word neu fersiwn PDF o’r ffurflen gais a’i dychwelyd i ni trwy ebost.

Dogfen Word

PDF