GEFEILLIO ABERYSTWYTH KRONBERG (AKT)
GRANTIAU AR GYFER YMWELIADAU Â KRONBERG
Mae AKT yn bodoli i hybu cysylltiau rhwng Kronberg ac Aberystwyth a gwnaiff gyfrannu arian i gynorthwyo unigolion a grwpiau sy’n awyddus i deithio i Kronberg. Pan yn ystyried ceisiadau am gymorth ariannol bydd AKT yn cymryd y canlynol i ystyriaeth:
- I blant. ni all cymorth ariannol fod yn fwy na 50% o gost unrhyw daith neu gyfnewid.
- I oedolion. ni all cymorth ariannol fod yn fwy na 25% o gost unrhyw daith neu gyfnewid.
- Rhaid ceisio am gymorth ariannol cyn bod yr ymweliad yn cael ei gynnal. Ni fydd AKT yn rhoi unrhyw gymorth ariannol yn ôl-weithredol.
- Gellir rhoi cymorth ariannol mewn gwahanol ffyrdd:
- Swm o arian a roddir i unigolyn/grŵp wedi’i gyfrifo fel canran o gyfanswm y gost.
- Swm o arian a roddir i’r unigolyn/grŵp i brynu eitem benodol, e.e. cost bws i faes awyr.
- Fel arfer, bydd ceisiadau am gymorth ariannol yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd busnes AKT.
- Gellir ymdrin â cheisiadau brys gan swyddogion AKT rhwng cyfarfodydd a drefnwyd.
- Rhaid i bob cais am gymorth ariannol gael ei wneud gan ddefnyddio’r ffurflen gais swyddogol. Rhaid i’r holl wybodaeth y gofynnir amdani fod ynghlwm wrth y ffurflen pan gaiff y cais ei wneud.
- Bydd cymorth ariannol yn cael ei roi nail ai:
- Fel siec, y mae’n rhaid ei thalu i mewn i gyfrif banc unigolyn sy’n gofyn am gymorth neu’r sefydliad sy’n gofyn am gymorth, neu
- Fel anfoneb (e.e. ar gyfer trip bws) y bydd trysorydd AKT yn ei thalu’n uniongyrchol.
- Ar ôl yr ymweliad, rhaid i’r unigolyn/sefydliad gyflwyno adroddiad am yr ymweliad.
- Os na fydd yr ymweliad yn digwydd am unrhyw reswm, bydd AKT yn gofyn i’r rhodd gyfan gael ei dychwelyd at drysorydd AKT
I geisio am gymorth ariannol gallwch gwblhau’r ffurflen ar-lein isod neu lawrlwytho naill ai Dogfen Word neu fersiwn PDF o’r ffurflen gais a’i dychwelyd i ni trwy ebost.