Aberystwyth-Kronberg
Darllen hanes ein cyfellio ers 1968
Math o gytundeb rhwng trefi er mwyn hybu clymau diwylliannol a masnachol yw Gefeillio Trefol. Bwriad y cysyniad modern o Efeillio Trefol a grewyd ar ol yr Ail Ryfel Byd yn 1947, yw meithrin cyfeillgarwch a dealltwriaeth rhwng diwylliannau gwahanol a rhwng rhai a fu gynt yn elynion, fel gweithred o heddwch a chymod ac er mwyn hybu masnach a thwristiaeth. Cofnodwyd cytundeb Gefeillio am y tro cyntaf yn 1920 rhwng Keighley, y DU, a Poix-du-Nord yn Nord, Ffrainc, yn dilyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Parharodd yr ymarfer ar ol yr Ail Ryfel Byd hyd heddiw. Erbyn 1995 roedd gan yr UE bron 10,000 o drefi yn cymryd rhan. Cychwynnodd yr UE gefnogi gefeillio trefol yn ariannol yn 1989.